Arfbais Botswana

Arfbais Botswana
Baner Arlywydd Botswana

Mabwysiadwyd arfbais genedlaethol Botswana ym 1966, ac mae'n ymddangos ar faner arlywydd y wlad. Mae tarian Affricanaidd yn dangos tair olwyn gocos a phen tarw, gyda thair ton o ddŵr yn eu gwahanu. Dau sebra yw'r cynhalwyr, sydd hefyd yn dal ysgithr eliffant a phlanhigwm sorgwm, sef prif gnwd Botswana. Yn ôl rhai mae streipiau du a gwyn y sebraod yn symboleiddio heddwch rhwng y mwyafrif du a'r lleiafrif gwyn ym Motswana.[1] Mae sgrôl las ar waelod yr arfbais yn dangos arwyddair cenedlaethol y wlad, pula, sef glaw neu ddŵr.

  1. Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 103.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy